Cym ymgeisio, sicrhewch eich bod yn gymwys ar gyfer un o'n grantiau drwy Glicio Yma
Gwneud cais ar-lein drwy Glicio Yma
Byddwn yn gwirio eich cais ac yn talu eich grant drwy drosglwyddiad banc
Cliciwch Yma i gysylltu â'n tîm
Ganwyd John Parry i deulu o fferm fynydd yn Nantglyn, ger Dinbych. Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Dinbych tan 1966 cyn iddo lwyddo cael lle ym Mhrifysgol Sheffield i astudio Gwleidyddiaeth ac Economeg. Fe raddiodd gyda gradd 2.1. Yna fe lwyddodd i sicrhau lle yng Ngholeg Brazenose, Rhydychen i astudio Gradd Meistr mewn Astudiaethau Busnes Amaeth.
Ar ôl ennill ei Radd Meistr fe benderfynodd ddychwelyd adref i weithio ac yna rhedeg fferm y teulu. Ni anghofiodd yr aberth a wnaeth ei deulu er mwyn ei alluogi i brofi bywyd yn y Brifysgol. Yn hwyrach yn ei fywyd, ac yntau heb unrhyw berthynas agos yn fyw, penderfynodd ei fod eisiau helpu pobl ifanc drwy roi cymorth iddynt ddatblygu eu hunain a gwireddu eu potensial.
Bu farw John yn Hydref 2006 gan adael cymynrodd sylweddol ar ei ôl; roedd yn dymuno iddo gael ei ddefnyddio i greu Ymddiriedolaeth a fyddai'n talu grantiau blynyddol i fyfyrwyr a oedd yn dymuno parhau gydag Addysg Bellach.
Bwriad yr Ymddiriedolaeth yw "Cyflwyno grantiau blynyddol i fyfyrwyr Addysg Bellach, yn enwedig y rheiny sy'n dod o gefndiroedd difreintiedig."
Mae Ymddiriedolaeth John Bennett Parry yn dathlu 10 mlynedd o ddarparu cymorth ariannol i fyfyrwyr Addysg Bellach. Byddai John wedi ei syfrdanu fod ei etifeddiaeth yn parhau drwy'r Ymddiriedolaeth a'n bod wedi cefnogi dros 300 o fyfyrwyr. Rydym yn gobeithio, gyda buddsoddiad ariannol cadarn, y gallwn barhau i gefnogi myfyrwyr am y 10 mlynedd nesaf.
Mae Ymddiriedolaeth Addysgol John Bennett Parry yn elusen gofrestredig (Rhif Elusen 1123459) a reolir gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr
Penderfynir ar faint y wobr a gwobr ychwanegol yn flynyddol gan yr Ymddiriedolwyr
Ar hyn o bryd maint y wobr yw £500 y flwyddyn, mae disgyblion sy’n derbyn credyd teulu yn gallu derbyn £250 yn ychwanegol.
Ar gyfer myfyrwyr sy’n gwneud cais ar gyfer eu blwyddyn gyntaf rhaid cadw at y rheolau hyn:
Ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu blwyddyn gyntaf ac sy’n awyddus i wneud cais am yr ail neu’r trydydd tro, dyma fydd y drefn:
Amserlen Ceisiadau
Oherwydd nifer fawr o geisiadau mae’r Ymddiriedolaeth yn ei dderbyn, ni wneir taliadau ar yr un pryd. Cymerwch amser i wiro eich cais cyn ei chyflwyno gan y gall gwneud ymholiadau oedi taliad.
Rydym yn gwneud pob ymdrech i gadw at y dyddiadau hyn. Os nad ydych wedi clywed gennym erbyn y y dyddiadau uchod yna cysylltwch â ni trwy y modd ‘Cysylltiadau”